Gofal Plant wedi'i Ariannu gan Lywodraeth Cymru

Mae Gofal Plant wedi'i Ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pob plentyn 2 oed ledled Rhondda Cynon Taf.

Sut ydw i'n gwybod os ydw i'n Gymwys ar gyfer Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru?

Mae Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar:

  • Lle rydych chi'n byw
  • Oedran eich plentyn 

Mae pob plentyn sy'n byw mewn cod post yn Rhondda Cynon Taf yn gymwys i dderbyn Gofal Plant wedi'i Ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae eich plentyn yn gymwys i ddechrau mewn lleoliad gofal plant wedi'i ariannu yn ystod y tymor yn dilyn eu hail ben-blwydd.

Mae pen-blwydd y plentyn yn ddwy oed rhwng:Mae'r plentyn yn gymwys i ddechrau:
Medi - Rhagfyr Tymor Ionawr
Ionawr – Mawrth Tymor Ebrill
Ebrill - Awst Tymor Medi

Sut mae cael mynediad at Ofal Plant wedi'i Ariannu gan Lywodraeth Cymru?

Byddwn ni'n ysgrifennu at deuluoedd cymwys pan fydd eu plentyn yn troi’n 18 mis oed. Bydd y llythyr yn eich gwahodd i wneud cais am leoliad gofal plant wedi'i ariannu. Os ydych chi'n credu eich bod chi'n gymwys ond dydych chi ddim wedi derbyn llythyr, e-bostiwch: GofalPlantDechraunDeg@rctcbc.gov.uk

Rydw i wedi cwblhau fy ffurflen gais, sut fydda i'n gwybod eich bod chi wedi'i derbyn? 

Byddwch chi'n derbyn e-bost awtomatig unwaith y bydd eich cais wedi'i gyflwyno yn cadarnhau ein bod ni wedi'i dderbyn, ac e-bost arall os yw'r lleoliad o'ch dewis yn ei dderbyn.

Ymhle alla i gael mynediad at fy lleoliad?

Mae modd i chi ddewis o restr o leoliadau wedi'u cymeradwyo yn Rhondda Cynon Taf lle mae modd i chi gael mynediad at sesiynau gofal plant wedi'u hariannu.

Mae rhestr o leoliadau ar gael yma: Tudalen RhCT

Hoffwn i fy mhlentyn fynd i ysgol Gymraeg, oes modd i ni gael mynediad at ddarpariaeth Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru Gymraeg?

Oes, mae gyda ni ddarpariaethau Cymraeg ledled Rhondda Cynon Taf. Mae modd i chi ddewis eich iaith ar y ffurflen gais.

Rydw i wedi symud i Rhondda Cynon Taf ac mae fy mhlentyn eisoes yn 2 oed, sut ydw i'n gwneud cais?

Bydd angen i chi gofrestru eich cyfeiriad newydd gyda meddyg teulu lleol a bydd yr adran iechyd yn rhoi gwybod i ni am y diweddariad yma. Unwaith y byddwn ni wedi derbyn hyn, byddwn ni'n cysylltu â chi er mwyn eich gwahodd chi i wneud cais am leoliad wedi'i ariannu.

Sawl awr o ofal plant mae Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru yn eu hariannu?

Mae Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru yn ariannu 12.5  awr yr wythnos, yn ystod y tymor ysgol yn unig.

A allaf i newid y lleoliad o’m dewis ar ôl i fy mhlentyn ddechrau?

Unwaith y bydd eich plentyn wedi dechrau mynychu’r lleoliad gofal plant o’ch dewis, bydd ei gyllid yn cael ei ddyrannu i’r lleoliad hwnnw am y tymor. Os bydd angen i chi newid darparwr gofal plant, bydd y cyllid fel arfer yn trosglwyddo i’r lleoliad newydd o ddechrau’r tymor nesaf, ym mis Ionawr, Ebrill neu Fedi.

Rydym yn deall y gall amgylchiadau newid, a bydd amgylchiadau unigol yn cael eu hystyried lle bo hynny’n briodol.

Pryd fydd Lleoliad Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru fy mhlentyn yn dod i ben?

Bydd mod i'ch plentyn gael mynediad at leoliad Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd y tymor y maen nhw'n troi'n dair oed.

Beth sy'n digwydd ar ôl i leoliad Gofal Plant wedi’i Ariannu gan Lywodraeth Cymru fy mhlentyn ddod i ben?

Mae modd i chi wneud cais am leoliad addysgol cyn-feithrin neu feithrinfa ar gyfer dechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed. Rhaid gwneud y cais yma drwy'r Awdurdod Lleol. Rhaid i chi wneud y cais yma ymlaen llaw.

Mae pen-blwydd y plentyn yn dair oed rhwng:Dylech chi gyflwyno cais:Mae'r plentyn yn gymwys i ddechrau:Math o Gais:
Medi - Rhagfyr Medi Ionawr Cyn-feithrin
Ionawr – Mawrth Ionawr Ebrill Cyn-feithrin
Ebrill - Awst Medi (cyn i'r plentyn droi'n 3 oed) Medi Meithrin

Mae amserlenni tynn ar gyfer gwneud cais. Bwriwch olwg ar wefan Rhondda Cynon Taf ar gyfer y dyddiadau ymgeisio cyfredol.

Os yw eich plentyn mewn lleoliad addysg am 15 awr yr wythnos, efallai y byddwch chi'n gymwys i wneud cais am 15 awr ychwanegol o ofal plant drwy'r Cynnig Gofal Plant 30 Awr.

Sut i gysylltu â ni

Ffôn: 01443 281437
E-bost: GofalPlantDechraunDeg@rctcbc.gov.uk