Pwy ydyn ni?
Mae'r Garfan Datblygu Chwarae yn comisiynu darpariaeth chwarae yn ystod tymor yr ysgol ac yn ystod y gwyliau ledled y Fwrdeistref Sirol, a hynny gan sefydliadau ar ran y Cyngor. Mae'r ddarpariaeth yma i blant a phobl ifainc rhwng 5 ac 14 oed.
Beth rydyn ni'n ei gynnig?
Chwarae Mynediad Agored
Mae darpariaeth Chwarae Mynediad Agored yn fan lle mae gweithwyr chwarae cymwys yn cynnal cyfleoedd chwarae cyffrous ac ysgogol ar gyfer plant a phobl ifainc rhwng 5 a 14 oed yn absenoldeb eu rhieni.
Nodwch, tra bod eich plentyn yn mynychu ein sesiynau chwarae mynediad agored:
- Mae modd i blant a phobl ifainc fynd a dod fel y mynnan nhw, oni bai bod y staff wedi cael gwybod yn wahanol cyn i'r plentyn neu'r person ifanc ymuno â'r sesiwn chwarae.
- Rhaid i riant neu warcheidwad (dros 18 oed) lenwi a llofnodi ffurflen gofrestru cyn bod modd i'r plentyn neu berson ifanc ddod i'r sesiynau chwarae.
Sut i gysylltu â ni
Ffôn: 07500064264
E-bost: ChwaraeRhCT@rctcbc.gov.uk