CREW

Beth yw'r Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol ('CREW')?

Mae'r Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol ('CREW') wedi cael ei datblygu ar gyfer pobl ifainc rhwng 8 ac 11 oed er mwyn eu cefnogi nhw i ddeall a mynegi eu emosiynau, magu hyder a chydnerthedd trwy ddarparu adnoddau a strategaethau ymdopi sydd wedi'u teilwra i bob unigolyn yn seiliedig ar ei anghenion a'i ddiddordebau.

Dyma'r meysydd y mae CREW yn gallu helpu gyda nhw:

  • emosiynau

  • gorbryder

  • hyder

  • dicter

Bydd y sesiynau CREW yn:

  • Rhoi cymorth un i un i'ch plentyn a byddan nhw wedi'u harwain gan y plentyn.

  • Cael eu cynnal yn eich cartref, yn y gymuned neu yn yr ysgol, yn dibynnu ar anghenion y plentyn unigol ac argaeledd.

  • Darparu gweithgareddau sy'n seiliedig ar chwarae ac yn cael eu cyflwyno gan weithwyr cymorth lles cymwys.

Dydy sesiynau CREW DDIM yn cynnig cymorth gyda:

  • Rheoli ymddygiad
  • Cwnsela a chymorth therapiwtig
  • Osgoi'r ysgol
  • Pryderon ehangach y teulu

Cwrdd â'r Garfan

  • Cydlynydd Lles / Rheolwr llinell CREW: Kirsty Worth

  • Gweithwyr Cymorth Lles CREW:  Laura Charlotte Williams / Natalie Vater / Laura Louise Williams

Manylion cyswllt:

Strwythur y Gwasanaeth

Bydd yr ymyrraeth yn para chwe wythnos:

  • Wythnos 1 – cyfarfod i gyflwyno'r rhaglen er mwyn penderfynu pa gymorth sydd ei angen.

  • Wythnos 2-5 – sesiynau un i un gyda'r person ifanc i roi adnoddau a strategaethau iddo i'w gefnogi gyda beth bynnag y mae’n ei chael hi'n anodd ag ef.

  • Wythnos 6 – adolygu cynnydd y person ifanc a bydd gwybodaeth ychwanegol am ddarpariaethau chwarae lleol hefyd yn cael ei darparu.

Byddwch chi'n dal i weithio gyda'ch Gweithiwr Ymyrraeth o'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth ar y cynllun teulu ehangach trwy gydol y cyfnod yma, gan mai dim ond un rhan o'r cymorth y mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn ei gynnig yw'r Rhaglen Creu Cydnerthedd ar gyfer Lles Emosiynol.

Sut ydw i'n cael mynediad at CREW?

Dim ond un dull o atgyfeirio sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef drwy'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth