Siarad a Chwarae

Dewch i ymuno â’r Garfan Siarad a Chwarae ar gyfer ein grwpiau Stori ac Odl Cymraeg wythnosol, yn rhad ac am ddim.

Mwynhewch straeon hwyl a chanu ambell un o'ch hoff hwiangerddi. Ymunwch â ni i ddawnsio ynghŷd â'n hoff gân 'Busy Feet' a gorffen y sesiwn hwyl a sbri'n popio swigod!

Croeso i siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydyn nhw'n medru'r Gymraeg

Dewch o hyd i ni yma:

Canolfan i Blant a Theuluoedd Rhydfelen,
Stryd y Celyn
CF37 5DB
O dydd Mercher 4 Mawrth
am 4 wythnos
1-2pm

Yn addas ar gyfer plant hyd at 4 oed.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 19/02/2026

Rhagor o newyddion