Grŵp Siaradwyr Bach
Dewch i ymuno â ni bob wythnos ar gyfer gweithgareddau hwyl gyda'ch plant. Byddwn ni'n rhannu llawer o argymhellion a syniadau defnyddiol er mwyn helpu'ch plant i ddod yn siaradwyr hyderus, a hynny drwy weithgareddau, caneuon a straeon creadigol.
Dewch o hyd i ni yma:
Prosiect Ieuenctid Blaenllechau,
Y Neuadd Les,
y tu ôl i 17-21 Y Rhes Hir, Blaenllechau
O ddydd Llun 23 Chwefror
am 5 wythnos
12.30 - 1.30pm
Yn addas ar gyfer plant hyd at 4 mlwydd oed.
Stori ac Odl
Dewch i ymuno â'r Garfan Siarad a Chwarae ar gyfer ein grwpiau Stori ac Odl wythnosol, yn rhad ac am ddim.
Mwynhewch straeon hwyl a chanu ambell un o'ch hoff hwiangerddi. Ymunwch â ni i ddawnsio ynghŷd â'n hoff gân 'Busy Feet' a gorffen y sesiwn hwyl a sbri'n popio swigod!
Dewch o hyd i ni yn:
Llyfrgell Aberpennar
63-65 Stryd Rhydychen
CF45 3HD
O Dydd Mercher 4 Mawrth
am 4 wythnos
10-11am
Maen nhw'n addas ar gyfer plant hyd at 4 blwydd oed.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk
Elklan: Dewch i siarad â'ch babi
Dewch i ymuno â ni bob wythnos i fwynhau gweithgareddau creadigol hwyl gyda'ch plant. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth a syniadau defnyddiol er mwyn rhoi cymorth i chi ddatblygu sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu eich babi chi.
Dewch o hyd i ni yma:
Canolfan i Blant Aman,
Stryd Godreaman, Aberdar
CF44 6DF
O ddydd Gwener 27 Chwefror
am 5 wythnos
10-11am
Canolfan Gymunedol Nightingales
Yr Hen Lyfrgell,
Cf40 1LA
O ddydd Gwener 27 Chwefror
am 5 wythnos
1-2pm
Dyma raglen 5 wythnos am ddim i rieni/cynhalwyr sydd ag o leiaf un babi rhwng 3 ac 12 mis oed.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 18/02/2026