Home-Start Cymru

Manteisio ar Gymorth

Mae modd i deuluoedd sydd â phlant dan 11 oed gysylltu er mwyn derbyn cymorth gan Home-Start Cymru drwy glicio ar y ddolen isod.

Os ydych chi'n gwybod pa wasanaethau a chefnogaeth rydym yn ei gynnig ac eisiau cysylltu â ni plis cliciwch y ddolen 'Cysylltwch â ni am Gefnogaeth'.

Amdanon ni

Rydyn ni'n helpu teuluoedd â phlant ifainc trwy gyfuniad o gymorth ymweliadau cartref, cymorth grŵp a gweithgareddau cymdeithasol. Rydyn ni'n paru anghenion y teulu â gwirfoddolwyr hyfforddedig sy'n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol.

Mae ein cymorth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddi-feirniadaeth. Mae gwirfoddolwyr sy’n ymweld â chartrefi yn galw heibio bob wythnos, am gwpl o oriau, cyhyd ag y mae angen cymorth ar y teulu, neu nes bod y plentyn ieuengaf yn troi’n bump oed neu’n dechrau addysg amser llawn.

Cymorth dan Arweiniad Gwirfoddolwyr

I gynnig cymorth dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n meithrin hyder a lles y teulu cyfan wrth weithio gyda rhieni ag anghenion lefel isel. Rydyn ni'n gweithio ochr yn ochr â theuluoedd er mwyn lleihau ynysigrwydd, meithrin gwydnwch a chreu sylfeini cryf ar gyfer dyfodol plant.

Rydyn ni'n gweithio ochr yn ochr â rhieni i feithrin lles, magu hyder, a chryfhau cysylltiadau teuluol, gan eu grymuso i greu newid cadarnhaol a pharhaol.

I helpu plant i ffynnu drwy helpu rhieni i deimlo’n gryfach, eu bod nhw wedi’u cefnogi, ac yn fwy cysylltiedig.

Rydyn ni'n cefnogi teuluoedd â phlant rhwng 0 ac 11 oed sy'n profi anghenion lefel isel fel ynysigrwydd, hyder isel, anhawster yn llywio gwasanaethau, rhwydweithiau cymorth cyfyngedig a gofynion rhianta o ddydd i ddydd.

Mae gwirfoddolwyr yn helpu teuluoedd i gael mynediad at grwpiau, adnoddau a gwasanaethau lleol i leihau ynysigrwydd, gwella annibyniaeth a lles.

I ofyn am gymorth, cysylltwch â Home-Start Cymru drwy glicio ar y ddolen 'Cysylltwch â ni am Gymorth'.

Tudalennau yn yr Adran Hon