Os wyt ti, neu unrhyw un o'th gwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Clicia yma i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng.
Mae modd i nifer o wasanaethau yn RhCT roi cyngor a chymorth i blant a phobl ifainc hyd at 25 oed. Rydyn ni wedi dwyn y cyfan ynghyd mewn un lle er mwyn i ti benderfynu'n gyflym pa un sydd orau i ti.
Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) ganllaw defnyddiol ar bwy mae modd i ti gysylltu â nhw am gyngor a chymorth brys yn ystod neu y tu allan i oriau'r swyddfa, megis:
- Gwasanaethau brys
- Cyngor ar faterion iechyd
- Digartrefedd
- Defnydd o gyffuriau ac alcohol
- Camfanteisio ar blant a'u hamddiffyn ar-lein
- Problemau iechyd meddwl
- Atal hunanladdiad
Mae Cyngor RhCT yn cynnig cyngor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar bryderon yn ymwneud â diogelu plant. Cei di ddod o hyd i fanylion ar sut i gysylltu â nhw yma.
Mae modd i Gyngor ar Bopeth yn RhCT dy helpu di gyda'r canlynol:
- Trais ac ymosodiad rhywiol
- Camau cyfreithiol o ran anafiadau personol
- Gwahaniaethu
- Hawliau dynol a hawliau pobl ifainc
Mae gan Childline gyngor a chanllawiau ardderchog ar y pynciau canlynol:
- Bwlio
- Camdriniaeth, fel cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol
- Diogelwch ar-lein
- Troseddau a'r gyfraith, megis hiliaeth, gangiau a throseddau drylliau a chyllyll
- Dy hawliau di, fel gwahaniaethu, troseddau casineb, cydraddoldeb a ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Mae gan Heddlu De Cymru wybodaeth hanfodol ar adnabod, ymateb i a rhoi gwybod am droseddau a deall y gyfraith, megis:
- Cam-drin plant
- Cam-drin yn y cartref
- Magu/meithrin perthynas amhriodol
- Trosedd casineb
- Priodas dan orfod
Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau a all helpu yn dy ardal di. Cei di weld rhestr o'r holl wasanaethau a all helpu pawb i gadw'n ddiogel yn RhCT yma.