Mae bod yn berson ifanc yn dod â llawer o deimladau a phrofiadau newydd. Gall wynebu rhywbeth newydd beri straen a phryder ac efallai nad ydych chi'n gwybod ble i droi. Mae'n naturiol i chi boeni weithiau cyn belled nad yw'n para'n rhy hir, yn digwydd yn rhy aml neu ei fod yn effeithio ar eich bywyd, fel eich atal chi rhag cysgu, astudio neu weithio. Mae'n bwysig eich bod chi'n siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo am sut rydych chi'n teimlo, fel aelod o'r teulu, athro neu ffrind. Os ydych chi'n poeni am siarad â rhywun, efallai y bydd ysgrifennu beth sydd ar eich meddwl yn eich helpu. Ceisiwch feddwl am sut rydych chi'n teimlo a beth hoffech chi gael cymorth gydag ef.
Mae llawer o gyngor gyda ni ar rai o'r pryderon a allai fod gyda chi ac mae modd i ni eich helpu chi i ddod o hyd i rywun i'ch helpu.