Gall fod yn anodd iawn dewis gyrfa. Mae ychydig o awgrymiadau da gyda ni i dy helpu di i benderfynu: 
- Os wyt ti dal yn yr ysgol, gofynna i dy athrawon di am help i ddod o hyd i'r llwybr cywir i ti. Os na fydd modd i athro helpu, gofynna i'r Cynghorydd Gyrfaoedd. 
 
- Trafoda dy syniadau gyda dy deulu a dy ffrindiau. 
 
- Cer i ddiwrnodau agored coleg neu brifysgol os oes modd. Dyma gyfle i ddarganfod beth sydd ar gael i ti, yn ogystal â chael syniad o sut brofiad fyddai astudio yno. 
 
- Gofynna am farn pobl sydd wedi gadael yr ysgol. 
 
- Cer i achlysuron gyrfa. Bydd y rhain yn rhoi cyfleoedd i ti siarad â cholegau, prifysgolion a hyd yn oed cynghorwyr gyrfaoedd. 
 
- Ymchwil, ymchwil, ymchwil! 
 
Os wyt ti newydd adael yr ysgol, beth am wylio'r fideo diddorol yma?: 
 
Ymchwil a Chyngor Gyrfaoedd
Achlysuron Diwrnod Agored
Achlysuron Gyrfaoedd
Cludiant Coleg
Cymorth Pellach
Dyma'n hawgrymiadau ni ar gyfer ymchwilio a chynllunio dy daith: 
- Gwna ymchwil i wahanol yrfaoedd a pha gymwysterau y byddai eu hangen arnat ti. Mae gan Gyrfa Cymru gyngor defnyddiol a hyd yn oed cwis i dy helpu di i ddod o hyd i syniadau sy'n cyfateb i dy sgiliau a dy ddiddordebau di. 
 
- Meddylia ble hoffet ti fynd. Mae modd i ti aros ymlaen ar gyfer y chweched dosbarth, mynd i goleg, prifysgol neu ddarparwr hyfforddiant. Efallai y byddi di hyd yn oed eisiau dechrau gweithio ar unwaith. 
 
- Meddylia am siarad â chynghorydd gyrfaoedd. Bydd modd i'th ysgol dy helpu di gyda hyn. Byddai modd i Gyrfa Cymru dy helpu di hefyd i gynllunio dy daith. 
 
Caiff diwrnodau agored eu cynnal ar rai adegau o'r flwyddyn yn Rhondda Cynon Taf. 
I ofyn am achlysuron gyrfa sy'n cael eu cynnal yn dy ardal di, mae modd i ti 
Os wyt ti rhwng 14 ac 19 oed,  efallai bod modd i ti hawlio cludiant i ac o'r coleg am ddim. Mae gan Wefan CBSRhCT ragor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais. 
Os oes angen cymorth pellach arnat ti, mae'n bosibl bod modd i rai gwasanaethau yn RhCT dy helpu di. 
Mae YEPS yn cynnig rhagor o wybodaeth fel: 
- Mynd i'r brifysgol 
 
- Technegau cyfweld ar gyfer addysg uwch. 
 
- Y broses glirio 
 
- Bywyd myfyrwyr 
 
- Astudio tramor 
 
- Cyllid i fyfyrwyr 
 
- Mae YEPS hefyd yn cynnig cymorth un-wrth-un. 
 
Mae modd i sefydliad Cymunedau am Waith gynnig cyngor, arweiniad a chymorth un-wrth-un i'r rhai sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfleoedd i wirfoddoli, gan gynnwys y rheiny ar incwm isel sy'n dymuno gwella'u sgiliau. 
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig rhagor o wybodaeth fel: 
- Dewisiadau person ifanc 16 oed 
 
- Dewisiadau person ifanc 18 oed 
 
- Newid gyrfa 
 
- Opsiynau ar ôl colli swydd 
 
- Opsiynau ar gyfer y rheiny sy'n dychwelyd i'r gwaith 
 
- Opsiynau ar gyfer graddedigion 
 
Mae hefyd modd cysylltu â Gyrfa Cymru am gyngor ac arweiniad.