
Croeso i'r dudalen Hyfforddi a Datblygu. Yma mae'r canllaw hyfforddi blynyddol sy’n cynnig cyrsiau i’r ymarferwyr canlynol:
- Gofal Plant Dechrau'n Deg
- Ieuenctid
- Chwarae
- Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
Bydd y canllaw yn cynnwys cyrsiau gorfodol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant Dechrau’n Deg, yn ogystal â chyrsiau arfer da i helpu gyda datblygiad personol yn eich swydd.
Sicrhewch eich bod chi'n gofyn am ganiatâd eich rheolwr cyn gwneud cais i gadw lle ar gwrs.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs bydd eich data'n cael ei storio fel cofnod hyfforddi electronig ar y Rheolwr Hyfforddiant. Mae modd cael copïau o'r Cofnod Hyfforddiant ar gais.
Os oes unrhyw gyrsiau yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnig yn y Canllaw Hyfforddi, anfonwch e-bost ataf i: cwrstraining@rctcbc.gov.uk
Gobeithio y gwnewch fwynhau'ch taith ddysgu.