Mae modd i wirfoddoli roi boddhad mawr i oedolion a phobl ifainc yn eu harddegau. Mae modd iddo fe deimlo'n dda gwybod eich bod chi wedi helpu eraill – rhywbeth sy'n wych i'ch iechyd meddwl. Mae modd iddo fe hefyd fod yn dda i'ch iechyd corfforol a helpu i wella sgiliau cymdeithasol. Mae gwirfoddoli'n edrych yn wych ar eich CV neu wrth gyflwyno cais am swydd, gan ei fod e'n dangos penderfyniad a'r parodrwydd i weithio.
Mae'r Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ymgysylltu â phobl ifainc 11–25 oed yn RhCT i wella eu cydnerthedd a'u grymuso i gyfrannu at y cymunedau lle maen nhw'n byw. Mae modd i chi gael gwybodaeth am eu cyfleoedd gwirfoddoli ar eu gwefan.
Sut i gysylltu â ni
Ffôn: 01443 281436
E-bost: GYCI@rctcbc.gov.uk
Gwefan: https://www.yeps.wales/cy/