Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

Diben y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yw nodi'r teuluoedd cywir sydd angen cymorth ar yr adeg gywir, i gynnig asesiadau cyflym sy'n canolbwyntio ar wydnwch, i gael gwared ar rwystrau ymarferol i newid cadarnhaol, ac i gynnig ymyriadau amserol ac effeithiol. Bydd y Gwasanaeth yn darparu gwell cymorth i deuluoedd mewn amseroedd ymateb cynt; asesiad diagnostig byrrach a mwy cadarn; pwynt cyswllt unigol dibynadwy a chymorth ymarferol rhagweithiol i gysylltu ag ymyriadau sydd wedi'u cynllunio i gynyddu lefelau gwydnwch. 

TLisa Lewis yw rheolwr y gwasanaeth yma sy'n rhan o'r Gwasanaethau i Blant ehangach. Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn cynnwys wyth carfan: 

Carfan Teuluoedd a Mwy - Samantha Greedy yw rheolwr y garfan yma sy'n gweithio gyda theuluoedd sy'n agos at drothwy ymyrraeth Gwasanaethau i Blant a sydd angen cymorth dwys i leihau lefel y risg o fewn y teulu. 

Carfan y Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol - Carfan y Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol - Lynne Jay yw rheolwr y garfan yma sy'n gweithio gydag unrhyw deulu sy'n cael ei effeithio gan anghenion dysgu, corfforol neu niwro-ddatblygiadol plentyn. 

Y Garfan Cymorth Rhianta a Siarad a Chwarae - Tracy Symon sy'n rheoli'r garfan yma sy'n gweithio gyda rhieni a phlant i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a sgiliau iaith cynnar trwy chwarae ac yn cefnogi rhieni i ddatblygu eu sgiliau rhianta er mwyn rheoli anghenion eu plant mewn ffordd weithredol a chadarnhaol. 

Carfanau Dwyrain a Gorllewin y Garfan i Deuluoedd - Zoe Parfitt a Sarah Gooch sy'n rheoli'r carfanau yma sy'n gweithio gyda theuluoedd sydd angen cymorth i wella ansawdd eu bywyd teuluol. Elusen Bernardos sy'n cyflogi gweithwyr y garfan.