Amser Stori

Mae darllen straeon gyda'ch plentyn yn ffordd wych o gysylltu â nhw a chreu profiadau  i'w rhannu.  Mae'n helpu'ch plentyn i ddatblygu ei ddychymyg, gwella sgiliau iaith a chefnogi datblygiad gwybyddol. 

story time

Mae gwasanaeth Llyfrgelloedd RhCT yn caniatáu i chi a'ch plentyn fenthyg llyfrau a lawrlwytho e-lyfrau o wefan y llyfrgell. Os byddwch chi'n dod yn aelod o'r llyfrgell, cewch wirio pa deitlau sydd ar gael a rhoi copi wrth gefn fan hyn

Bob mis ar wefan Teuluoedd RhCT byddwn ni'n argymell straeon llawn hwyl i chi eu darllen gyda'ch plant. 

Dyma ein prif argymhellion ar gyfer Gorffennaf 2025: 

Storïau Saesneg 

Everybody has a body

Mae pawb yn wahanol mewn rhyw ffordd - ac mae bod yn wahanol yn iawn! Os oes gyda chi gorff mawr, bach, llydan neu dal, mae'n rhywbeth i'w ddathlu a bod yn falch ohono. Mae'r llyfr lluniau digrif yma yn cynnwys neges gadarnhaol a grymusol am hunanhyder ac mae wedi'i hanelu at blant iau.

Everybody has a Body

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT 

The Magic Porridge Pot

Mae merch fach yn derbyn crochan uwd hud, ond un diwrnod, pan mae ei mam yn anghofio ei dynnu oddi ar y tân, mae'r dref gyfan yn cael ei llenwi ag uwd!

The Magic Porridge Pot

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT.

 

Straeon Cymraeg 

Bw-a-bog yn y Parc

Stori am fachgen bach yn cyfarfod â chreadur go ryfedd yn cuddio yn y llwyni yn y parc, creadur sy'n ei helpu i oresgyn ei unigrwydd. 

Bw-a-Bog yn y parc

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT.

Y Cyw Hyll

Pan fydd y cyw bach hyll yn cael ei bryfocio am fod yn wahanol, mae'n gadael y fferm i ddod o hyd i gartref newydd. Ond beth arall fydd cyw bach yn ei ddarganfod ar ddiwedd ei antur?

Y Cyw Hyll

 Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT

I gael rhagor o adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu chi i ddarllen ac archwilio straeon gyda’ch plentyn, ewch i wefan BookTrust Cymru

Tudalennau yn yr Adran Hon