Mae cyfathrebu'n agored yn allweddol ar gyfer adeiladu perthynas gadarnhaol a datrys unrhyw anawsterau cyfathrebu gyda'ch person ifanc chi. Mae'r ffordd rydyn ni'n ymwneud â phobl ifainc yn eu harddegau o ddydd i ddydd yn effeithio ar sut rydyn ni'n cysylltu â nhw. Mae'n bwysig bod pobl ifainc yn eu harddegau'n gwybod bod gennych chi ddiddordeb yn eu bywydau. Mae'n bwysig eu bod nhw'n deall eich bod chi ar eu hochr nhw, hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno â nhw.
- Cyfathrebu â'ch person ifanc yn ei arddegau - Hwyluswch gyfleoedd i gyfathrebu'n gyson a thrafodwch ei ddiddordebau a'r hyn sy'n digwydd yn ei fywyd. Gwrandewch ar ei farn, safbwyntiau a theimladau.
- Cyfathrebu parchus a phendant - Byddwch yn barchus. Mae pobl ifainc yn dysgu o'r ffordd rydyn ni'n siarad â nhw. Ymarferwch sut rydych chi am ymateb i'r person ifanc mewn ffordd barchus a phendant. Cymerwch saib fer er mwyn pwyllo cyn ymateb.
- Negodwch reolau a ffiniau - Sicrhewch fod eich person ifanc yn deall bod y rheolau'n fuddiol iddyn nhw, er enghraifft, mae rhaid rhoi gwybod i chi ei fod wedi cyrraedd yn ddiogel os yw'n mynd i gwrdd â ffrindiau, mae'n cael treulio amser ar ddyfeisiau trydanol ar ôl gorffen gwaith cartref, mae'n glanhau ei ystafell unwaith yr wythnos. Wrth fynd ati i greu'r rheolau yma gwrandewch ar eich person ifanc a negodwch, ond cofiwch taw chi, y rhiant, sy mewn rheolaeth.
- Addysgwch gyfrifoldeb - Rhowch gyfrifoldebau i'ch person ifanc megis codi’n brydlon yn y bore, golchi dillad, cloi'r drysau ar ddiwedd y dydd, golchi llestri. Cymerwch amser i drafod pam eich bod chi'n awyddus iddo ddechrau gwneud ei dasgau ei hun. Cytunwch i ddangos iddo sut i wneud y dasg os bydd angen. Cytunwch ar wobr a chadwch lygad i weld sut mae'n ymdopi â'r tasgau.
- Prydau bwyd - Anogwch eich person ifanc i siarad am faterion sy'n bwysig iddo. Mae prydau bwyd yn gyfle da i drafod y materion yma. Defnyddiwch ddulliau cyfathrebu cadarnhaol a pharchus i annog eich person ifanc i ymuno â'r sgwrs ar ei liwt ei hun, yn hytrach na'i orfodi.
- Rheoli gwrthdaro - Cymerwch saib neu darfu ar y sgwrs os ydych chi'n teimlo bod y drafodaeth yn dechrau troi'n amharchus neu'n ymosodol. Er enghraifft dywedwch rywbeth fel 'Dydw i ddim mewn lle i drafod ar hyn o bryd. Bydd cyfle i ni drafod hyn eto ar ôl i ni'n dau gael amser i bwyllo'. Arhoswch yn bwyllog, yn gadarnhaol ac yn benderfynol a pheidiwch ag ildio.
- Datrys problemau gyda'ch gilydd - Dewiswch amser da i siarad gyda'ch person ifanc a chofio gadael iddo siarad yn gyntaf. Mynegwch eich safbwynt chi mewn ffordd barchus a holwch sut byddai’n datrys y broblem cyn cynnig eich syniadau eich hun.
- Ymennydd person yn ei arddegau - Mae'n bwysig bod rhieni yn deall bod ymennydd pobl yn eu harddegau yn dal i ddatblygu. Mae pobl ifainc yn fwy tebygol o ymateb yn reddfol yn hytrach na phrosesu gwybodaeth. Mae sgiliau cyfathrebu a barnu pobl ifainc yn dal i ddatblygu ac mae angen cefnogaeth a dealltwriaeth eu rhieni arnyn nhw.