Grŵp Siaradwyr Bach
Dewch i ymuno â ni bob wythnos ar gyfer gweithgareddau hwyl gyda'ch plant. Byddwn ni'n rhannu llawer o argymhellion a syniadau defnyddiol er mwyn helpu'ch plant i ddod yn siaradwyr hyderus, a hynny drwy weithgareddau, caneuon a straeon creadigol.
Dewch o hyd i ni yma:
Little Lounge,
Yr islawr,
Canolfan Gymuned Cilfynydd,
O ddydd Iau 16 Ebril
am 6 wythnos
9:30 - 10:30am
Yn addas ar gyfer plant hyd at 4 mlwydd oed.
Elklan: Dewch i siarad â'ch babi
Dewch i ymuno â ni bob wythnos i fwynhau gweithgareddau creadigol hwyl gyda'ch plant. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth a syniadau defnyddiol er mwyn rhoi cymorth i chi ddatblygu sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu eich babi chi.
Dewch o hyd i ni yma:
Ysgol Gynradd Trewiliam
Yr Hen Lyfrgell,
Cf40 1AG
O ddydd Mercher 15 Ebril
am 6 wythnos
1.30 - 2.30pm
Canolfan i Blant Aman,
Stryd Godreaman, Aberdar
CF44 6DF
O ddydd Gwener 17 Ebril
am 6 wythnos
10-11am
Dyma raglen 5 wythnos am ddim i rieni/cynhalwyr sydd ag o leiaf un babi rhwng 3 ac 12 mis oed.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk
Stori ac Odl
Dewch i ymuno â'r Garfan Siarad a Chwarae ar gyfer ein grwpiau Stori ac Odl wythnosol, yn rhad ac am ddim.
Mwynhewch straeon hwyl a chanu ambell un o'ch hoff hwiangerddi. Ymunwch â ni i ddawnsio ynghŷd â'n hoff gân 'Busy Feet' a gorffen y sesiwn hwyl a sbri'n popio swigod!
Dewch o hyd i ni yn:
Llyfrgell Glynrhedynog,
Hwb Little Ferns
CF43 3PS
O Dydd Llun 20 Ebril - Ac Eithrio Dydd Llun Gwyl y Banc
am 4 wythnos
1-2pm
Maen nhw'n addas ar gyfer plant hyd at 4 blwydd oed.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 27/03/2026