Grŵp Siaradwyr Bach
Dewch i ymuno â ni bob wythnos ar gyfer gweithgareddau hwyl gyda'ch plant. Byddwn ni'n rhannu llawer o argymhellion a syniadau defnyddiol er mwyn helpu'ch plant i ddod yn siaradwyr hyderus, a hynny drwy weithgareddau, caneuon a straeon creadigol.
Dewch o hyd i ni yma:
Canolfan Gymunedol NightingalesYr Hen Lyfrgell, Pen-y-graigCF40 1LAO ddydd Iau 8 Ionawram 6 wythnos1 – 2pm
Yn addas ar gyfer plant hyd at 4 mlwydd oed.
Stori ac Odl
Dewch i ymuno â'r Garfan Siarad a Chwarae ar gyfer ein grwpiau Stori ac Odl wythnosol, yn rhad ac am ddim.
Mwynhewch straeon hwyl a chanu ambell un o'ch hoff hwiangerddi. Ymunwch â ni i ddawnsio ynghŷd â'n hoff gân 'Busy Feet' a gorffen y sesiwn hwyl a sbri'n popio swigod!
Dewch o hyd i ni yn:
Canolfan Cymuned PerthcelynStryd Morgannwg, AberpennarCF45 3RJO ddydd Gwener 9 Ionawram 6 wythnos10-11am
Maen nhw'n addas ar gyfer plant hyd at 4 blwydd oed.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk
Dewch i siarad â'ch babi
Dewch i ymuno â ni bob wythnos i fwynhau gweithgareddau creadigol hwyl gyda'ch plant. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth a syniadau defnyddiol er mwyn rhoi cymorth i chi ddatblygu sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu eich babi chi.
Dewch o hyd i ni yma:
Canolfan i Blant AmanStryd Godreaman, AberdârCF44 6DFO ddydd Gwener 9 Ionawr10 – 11am
Dyma raglen 5 wythnos am ddim i rieni/cynhalwyr sydd ag o leiaf un babi rhwng 3 ac 12 mis oed.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 18/12/2025