Stori ac Odl Sesiynau galw heibio
Dewch i ymuno â'r Garfan Siarad a Chwarae ar gyfer ein grwpiau Stori ac Odl wythnosol, yn rhad ac am ddim. Addas ar gyfer plant hyd at 4 mlwydd oed.
Mwynhewch straeon hwyl a chanu ambell un o'ch hoff hwiangerddi. Ymunwch â ni i ddawnsio ynghŷd â'n hoff gân 'Busy Feet' a gorffen y sesiwn hwyl a sbri'n popio swigod!
Dewch o hyd i ni yma:
Llyfrgell Plaza'r Porth
O ddydd Mawrth 9 Ebrill
am 6 wythnos
10.00am–11.00am
Grŵp Edrych, Dweud, Canu, Chwarae
Dewch i ymuno â ni bob wythnos ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl gyda'ch plant. Byddwn ni'n rhannu awgrymiadau a syniadau
am weithgareddau i helpu gyda datblygiad eich plentyn.
Neuadd y Dref Aberpennar
O ddydd Gwener 12 Ebrill
am 6 wythnos
10.00am–11.00am
Os hoffech chi ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 17/04/2024