Emma Durman, Autside
Dydd Mercher 15 Mai 2024, 10:00am - 12:00pm
Y sesiwn
Bwriad y sesiwn yw helpu’r rhai sy’n cefnogi brodyr a
chwiorydd plentyn/unigolyn ifanc awtistig/niwrowahanol.
Mae’n cynnwys:
- Sut y gallwn gefnogi brodyr a chwiorydd i ddatblygu dealltwriaeth o awtistiaeth
- Y ffordd orau o roi gwybodaeth briodol
- Archwilio dynameg y teulu
- Deall safbwynt brodyr a chwiorydd
- Strategaethau ymarferol i gefnogi perthnasoedd teuluol a bywyd bob dydd
Y cyflwynydd
Mae Emma Durman yn gyd-gyfarwyddwr Autside Education & Training, cwmni o Dde Cymru sy’n arbenigo mewn Awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig. Mae Autside yn darparu ystod o hyfforddiant i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n canolbwyntio ar gefnogi anghenion
niwrowahanol. Mae Emma wedi cael diagnosis hwyr o awtistiaeth ac mae ganddi ADHD a llawer o gyflyrau sy’n cyd-fynd â nhw. Mae hefyd yn fam i blentyn Awtistig yn ei arddegau sydd hefyd ag ADHD. Mae gan Emma MSc mewn Awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig ac mae wedi
ysgrifennu llyfr ar y cyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘Supporting Autistic people through pregnancy and childbirth’.
I archebu lle defnyddiwch y ddolen hon:
https://events.teams.microsoft.com/event/ab782df6-84bc-4199-8049-8872c77f96c7@6850a7f1-4cc1-4482-a1c1-79439f679966
(Sylwer: mae’r sesiwn hon i rieni a gofalwyr yn unig)
Wedi ei bostio ar 17/04/2024