Storïau

Mae darllen straeon gyda'ch plentyn yn ffordd wych o gysylltu â nhw a chreu profiadau  i'w rhannu.  Mae'n helpu'ch plentyn i ddatblygu ei ddychymyg, gwella sgiliau iaith a chefnogi datblygiad gwybyddol. 

Mae gwasanaeth Llyfrgelloedd RhCT yn caniatáu i chi a'ch plentyn fenthyg llyfrau a lawrlwytho e-lyfrau o wefan y llyfrgell. Os byddwch chi'n dod yn aelod o'r llyfrgell, cewch wirio pa deitlau sydd ar gael a rhoi copi wrth gefn fan hyn

Bob mis ar wefan Teuluoedd RhCT byddwn ni'n argymell straeon llawn hwyl i chi eu darllen gyda'ch plant. 

Dyma ein prif argymhellion ar gyfer Awst 2025

Storïau Saesneg 

Fred and Ted's treasure hunt

Mae Fred a Ted wedi dod o hyd i fap mewn potel. Mae'n rhaid ei fod yn arwain at drysor! Ond yn gyntaf mae'n rhaid iddyn nhw ddilyn y cliwiau, gam wrth gam. Mae'r cliwiau yma'n cynnwys neidio, troelli a chyfrif nes iddyn nhw ddatgloi'r gist i ddatgelu trysorfa o deganau.

Fred and Ted's Treasure Hunt

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT. 

Hungry or not, Mr Croc?

Mae bol Mr Croc yn rymblan felly mae'n crensian creision ŷd, yn llyncu sbageti ac yn llowcio hufen iâ. Blasus iawn! Ond mae Mr Croc yn llwglyd o hyd. Beth fydd e'n ei wneud?

Hungry or not Mr Croc

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT. 

Straeon Cymraeg 

Anhygoel

Mae bachgen bach a'i ddraig anwes yn ffrindiau gorau. Maen nhw'n chwerthin, maen nhw'n canu, maen nhw'n dawnsio, maen nhw'n cysgu. Maen nhw ill dau yn anhygoel - yn union fel pawb arall! 

Anhygoel

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT.

Paid â phoeni

Mae gan Douglas bryder fawr, ond mae Douglas yn gwybod ei fod yn gallu dibynnu ar ei dad!

Paid â phoeni

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT. 

I gael rhagor o adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu chi i ddarllen ac archwilio straeon gyda’ch plentyn, ewch i wefan BookTrust Cymru

Tudalennau yn yr Adran Hon