Beth yw Wythnos Hwiangerddi'r Byd?
Mae Wythnos Hwiangerddi'r Byd yn hyrwyddo pwysigrwydd hwiangerddi mewn datblygiad ac addysg plentyndod cynnar.
Pwy sy'n gallu cymryd rhan?
Mae croeso i unrhyw un sydd â phlentyn sy'n iau na 7 oed neu'n gweithio gyda phlant sy'n iau na 7 oed, Felly, os ydych chi'n rhiant, mam-gu, dad-cu neu'n Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, mae croeso ichi gymryd rhan.
Beth yw her 'Hwiangerdd y Dydd'?
Pob blwyddyn, mae’r trefnwyr yn dewis 5 hwiangerdd ac yn annog i blant gymryd rhan yn her 'Hwiangerdd y Dydd' drwy ganu'r hwiangerddi a chymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig.
5 Hwiangerdd swyddogol 2023 yw:
- Jack & Jill
- Hickory Dickory Dock
- Head, Shoulders, Knees & Toes
- Row Row Row Your Boat
- Wheels On The Bus
Mae modd i hwiangerddi helpu wrth ddatblygu Ieithoedd a Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd, Sgiliau Cymdeithasol, Corfforol ac Emosiynol
Mae cofrestru a chymryd rhan yn rhad ac am ddim
Ewch amdani! Cliciwch ar y ddolen i gofrestru Registration - World Nursery Rhyme Week er mwyn cael mynediad at adnoddau am ddim yn barod ar gyfer Wythnos Hwiangerddi'r Byd
Wedi ei bostio ar 19/10/2023