Mae angen gwneud cais am le mewn ysgol ar wahanol gamau yn addysg plentyn. Dyma'r camau: Cyn-feithrin, Meithrin, Dosbarth Derbyn, Pontio Babanod i Iau ac Ysgol Uwchradd. Mae angen gwneud y ceisiadau hyn ymlaen llaw, hyd at flwyddyn cyn y bydd eich plentyn yn dechrau yn ei flwyddyn academaidd newydd.
Mae yna rai adegau yn y flwyddyn pan fydd modd i chi wneud cais am le mewn ysgol, ac mae'r cyfnod ymgeisio bellach ar agor! Serch hynny, mae'r dyddiadau agor a chau yn wahanol yn dibynnu ar oedran eich plentyn. Bydd y tabl defnyddiol isod yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd angen i chi wneud cais. Mae modd i chi ddewis hyd at 3 ysgol yn nhrefn blaenoriaeth.
Mae'n hawdd gwneud cais gan ddefnyddio porth ar-lein a fydd yn derbyn pob math o geisiadau am leoedd i ysgolion ac eithrio:
- Ceisiadau am leoedd mewn Ysgolion Arbennig. Ffoniwch y Garfan Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Addysgol Arbennig drwy ffonio 01443 744000.
- Ceisiadau am leoedd mewn Ysgolion Gwirfoddol Cymorthedig a Rheoledig (o dan adain yr eglwysi) Rhaid cyflwyno'r ceisiadau yma'n uniongyrchol gyda'r ysgol.
Derbyn disgyblion cyn-feithrin
Ar gyfer plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023:
- Ceisiadau ar-lein o 1 Medi 2023 tan 30 Medi 2023.
- Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ar 10 Tachwedd 2023.
Ar gyfer plant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2024:
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Ionawr 2024 a 10 Chwefror 2024.
- Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ar 15 Mawrth 2024.
Wrth gyflwyno cais am le cyn-feithrin bydd modd i chi wneud cais am le mewn Ysgol neu Ddarparwr Addysg Cofrestredig. Os bydd lle cyn-feithrin rhan-amser (15 awr) yn cael ei ddyrannu i’ch plentyn neu os nad oedd modd iddo/iddi gael lle cyn-feithrin o gwbl, efallai bydd modd i chi wneud cais am y Cynnig Gofal Plant 30 Awr, sy'n gallu cynnig gofal plant am ddim i rieni a chynhalwyr sy'n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed.
Wrth gyflwyno cais am le cyn-feithrin bydd modd i chi wneud cais am le mewn Ysgol neu Ddarparwr Addysg Cofrestredig. Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i dderbyn gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu, ar ben y lle addysg cyn-feithrin, a hynny drwy'r Cynnig Gofal Plant Cymru.
Derbyn plant o oed meithrin
Ar gyfer plant a fydd yn 3 oed cyn 1 Medi 2023.
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2023 ac 10 Tachwedd 2024.
- Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ar 16 Ebrill 2024.
Derbyn disgyblion i'r Dosbarth Derbyn
Ar gyfer Plant a fydd yn 4 oed cyn 1 Medi 2024.
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2023 a 10 Tachwedd 2023.
- Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ar 16 Ebrill 2024.
Derbyn disgyblion o'r Ysgol Babanod i'r Ysgol Iau
Ar gyfer disgyblion sy’n gadael Blwyddyn 2 mewn Ysgol Babanod ar ddiwedd Tymor yr Haf 2024. Byddwch yn effro, does dim angen i chi gyflwyno'r cais yma os yw eich plentyn mewn Ysgol Gynradd.
Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2023 a 10 Tachwedd 2023.
Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ar 16 Ebrill 2024.
Derbyn disgyblion i Ysgolion Uwchradd
Ar gyfer disgyblion sy'n gadael Blwyddyn 6 ar ddiwedd Tymor yr Haf 2024.
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar lein rhwng 1 Medi 2023 ac 13 Hydref 2023.
- Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 1 Mawrth 2024.
I gysylltu â’r garfan Derbyn Disgyblion:
Ffoniwch 01443 281111
E-bostiwch: DerbynDisgyblion@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Website: Cyflwyno cais am le mewn ysgol
Wedi ei bostio ar 27/09/2023